Gwrthdystiad Cenedlaethol y TUC (26 Mawrth)
26th March 2011
Mae Sosialwyr Abertawe wedi dychwelyd o Wrthdystiad Cenedlaethol y TUC yn Llundain wedi eu cryfhau.Aeth aelodau cangen Abertawe ar fysiau wedi eu trefnu gan yr undebau llafur ac roedd y teithwyr ar fws Unite mewn hwyliau da ac yn edrych ymlaen yn frwd i’r brotest. Pan gyrhaeddon ni daeth yn amlwg yn fuan bod y brotest yn un enfawr.
Roedd y gorymdeithwyr yn awyddus i gymryd taflen y Blaidd Sosialaidd dros gael streic 24 awr gan y sector cyhoeddus, diolch i’w neges glir i wrthsefyll pob toriad ac i’r undebau sector cyhoeddus cyd-drefnu streic un diwrnod i ddechrau.
Gwnaethon ni dosbarthu'r taflenni wrth gatiau Hyde Park am ddros awr ac roedd y gorymdeithwyr diwethaf ddim wedi cychwyn.
Roedd amser i ni mynychu rali Rhwydwaith Cenedlaethol y Stiwardiaid Siop (NSSN) yn Speaker's Corner a chlywed areithiau tanbaid gan ysgrifennydd yr NSSN Linda Taaffe a’r cynullydd yn erbyn y toriadau Rob Williams.
Roedd y teithwyr mewn hwyliau da ar y siwrnai yn ȏl ac yn frwdfrydig a phenderfynol. Mae'r ffaith bod 500,000 o bobl wedi gorymdeithio heb i’r TUC mynd ati o ddifrif yn dangos y potensial i drefnu gwrthwynebiad i'r toriadau.
Roedd Louise o Gaerdydd ar ei phrotest fawr gyntaf a dywedodd ei bod wedi rhoi hwb iddi cario ymlaen i ymgyrchu.
"Roeddwn i’n synnu i weld cyn gymaint o bobl yna. Pan roedden ni’n gadael roedden nhw’n dal i ddod i mewn!" meddai hi.
Dywedodd Alec o Abertawe: “Hon oedd y brotest fwyaf ers y brotest yn erbyn y rhyfel yn Irac. Roedd lot o grwpiau gwahanol, fel y gweithwyr iechyd a gweithwyr llywodraeth leol, a phrotestwyr o bob oedran.
"Cafodd galwad y Blaid Sosialaidd am streic 24 awr yn y sector cyhoeddus ymateb da iawn. Roedd y neges yr un cywir."
